S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Ie neu Na?

Fe allet ti ennill crys t Stwnsh Sadwrn wrth chwarae Ie neu Na? ar Stwnsh Sadwrn! Ac os fyddi di'n ennill, mae yna gyfle i ti gystadlu yn ein cystadleuaeth newydd – Targed – lle mae cyfle i ti ennill gwerth £50 o dalebau stryd fawr!

Ffonia 08000 72 78 77 i gystadlu

Gall cost fod gyda'r alwad a rhaid bod dan 16 i gystadlu.

Cofia ofyn am ganiatad cyn ffonio, a bydd y gystadleuaeth yn cau yn ystod y rhaglen, dydd Sadwrn 22 Rhagfyr, pob lwc!


RHEOLAU CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN GWIR NEU GAU?

I gystadlu, rhaid:

Ffonio 08000 72 78 77. Gall fod cost gyda'r alwad.

Bydd y gystadleuaeth yn cau yn ystod y rhaglen, dydd Sadwrn 22 Rhagfyr 2018.

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

Os y byddi'n ennill Gwir neu Gau?, mae yna gyfle i ti gystadlu yn ein cystadleuaeth ffôn newydd – Targed, a chyfle i ti ennill £50 o dalebau stryd fawr.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru TV Cyf. (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

Dewisir un enillydd ar hap o blith yr enwau sydd wedi cystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau. Bydd penderfyniad Boom Cymru / S4C ynghylch yr enillydd yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

Un wobr sydd: crys t Stwnsh Sadwrn.

Mae'n rhaid bod yn 16 oed neu iau i gystadlu. Rhaid gofyn am ganiatad i gystadlu.

Bydd Boom Cymru hefyd yn cysylltu drwy ffonio'r enillydd ar ôl y rhaglen.

Mi fydd aelod o dîm Stwnsh Sadwrn yn ffonio rhiant / gwarchodwr yr enillydd i drafod y trefniadau. Uwaith bydd y wobr wedi ei basio ymlaen i'r rhiant / gwarchodwr, ni fydd Boom Cymru yn gyfrifol am unrhyw drefniant pellach. Ni fydd Boom Cymru yn talu am unrhyw gostau ychwanegol.

Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall Boom Cymru / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.

Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo'r wobr, ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.

Ni fydd Boom Cymru ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon ebost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

Os na fydd modd i Boom Cymru ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru / S4C i wneud hynny, bydd gan Boom Cymru / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Ar wahan at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10, 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

RHEOLAU CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN TARGED

I gystadlu, rhaid:

Ffonio 08000 72 78 77. Gall fod cost gyda'r alwad.

Bydd y gystadleuaeth yn cau yn ystod y rhaglen, dydd Sadwrn 22 Rhagfyr 2018.

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru TV Cyf. (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

Dewisir un enillydd ar hap o blith yr enwau sydd wedi cystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau. Bydd penderfyniad Boom Cymru / S4C ynghylch yr enillydd yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

Un wobr sydd: £50 o dalebau stryd fawr

Mae'n rhaid bod yn 16 oed neu iau i gystadlu. Rhaid gofyn am ganiatad i gystadlu.

Bydd Boom Cymru hefyd yn cysylltu drwy ffonio'r enillydd ar ôl y rhaglen.

Mi fydd aelod o dîm Stwnsh Sadwrn yn ffonio rhiant / gwarchodwr yr enillydd i drafod y trefniadau. Uwaith bydd y wobr wedi ei basio ymlaen i'r rhiant / gwarchodwr, ni fydd Boom Cymru yn gyfrifol am unrhyw drefniant pellach. Ni fydd Boom Cymru yn talu am unrhyw gostau ychwanegol.

Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall Boom Cymru / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.

Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo'r wobr, ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.

Ni fydd Boom Cymru ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon ebost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

Os na fydd modd i Boom Cymru ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru / S4C i wneud hynny, bydd gan Boom Cymru / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Ar wahan at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10, 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?