#Fi Megan
Ar yr olwg gynta' mae Megan sy'n 15 mlwydd oed yn berson ifanc tebyg i unrhyw berson arall ei hoed hi.
Mae'n mwynhau cwmni ffrindiau, mynd i glwb drama a gwylio ffilmiau gyda'i chwiorydd. Ond mae Megan yn diodde o isleder a thrwy ei chamera vlogio ni'n dod i'w hadnabod yn well a gweld sut mae'n ymdopi pan mae'n teimlo'n isel. Yn ogystal â hyn fydd Megan yn cwrdd â phobl ifanc eraill sydd fel hi, yn byw o ddydd i ddydd gyda phroblemau iechyd meddwl.
Cael help…
Mae elusen Mind yn un o'r sefydliadau sydd wedi helpu Megan ag eraill i ddeall mwy am broblemau iechyd meddwl.
Os ydych chi'n teimlon orbryderus neu isel ond ddim yn siŵr at bwy i droi fe allwch gysylltu gyda'r elusennau yma:
Mind: 0300 123 3393 neu www.mind.org.uk
Childline: 0800 1111 neu www.childline.org.uk
Dim yr unig un…
Mae llawer o bobl ifanc yn teimlo mae nhw ydy'r unig un sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, ond y gwir yw, bod sawl un yn gallu teimlo'n orbryderus neu'n isel ar adegau.
Annwyl Gorbryder ac Iselder…
Yn aml mae Megan yn ysgrifennu ei theimladau i lawr, dyma ei llythyr hi at gorbryder ac iselder.