Fe ddylai Geraint Thomas fod ar bodiwm y Tour de France ar ddiwedd y ras fawr eleni - ond Team Sky fydd yn penderfynu ar ba ris y bydd e'n sefyll.
Dyna farn y beiciwr proffesiynol, Gruff Lewis, sydd yn rhan o dîm sylwebu cyfres Seiclo, fydd yn dangos pob cymal o'r Tour eleni gyda rhaglenni byw ac uchafbwyntiau dyddiol ar S4C, o ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf.